Distyllfa Gymreig ydyn ni, sy’n chwifio’r faner dros jin Cymreig a wisgi Cymreig o’r grawn i’r gwydr – felly pam nad yw’n gwefan yn Gymraeg? Pam nad ydym ni (eto) yn defnyddio’r Gymraeg yn ein busnes?

Gadewch i ni ddechrau gyda’n henw – In the Welsh Wind. Roedd enw ein distyllfa’n bodoli  sawl blwyddyn cyn y ddistyllfa. Dyma enw y gwnaethom ei greu wrth i ni ddechrau ar ein taith gerdded o gwmpas Cymru yn ôl yn 2013 – mae ‘in the wind’ yn ddywediad sy’n cael ei ddefnyddio ymhlith y rhai sy’n gweithio mewn ysbïo ac sy’n diflannu – ac roeddem yn aml yn gwylio Spooks ar y pryd! Roedden ni ar fin dechrau ar ein hantur ein hunain ar hyd llwybr arfordir Cymru ac roedd hi’n teimlo, i bob pwrpas, ein bod ni’n bwrw am y gwynt yng Nghymru. Ysgrifennon ni flog dan yr enw hwn wrth i ni fynd ati i ddogfennu’n teithiau, a daeth yn hynod o bwysig i ni.

Roedd y daith honno’n un dyngedfennol i ni, a gadarnhaodd ein hymrwymiad i’n gilydd ac i fywyd gyda’n gilydd yng ngorllewin Cymru lle tyfais (Ellen) i fyny. Dychwelon ni adre ac, er i bethau cymryd rhai blynyddoedd cyn i’r busnes ddod yn glir, mae’r enw’n un peth sydd wedi aros yn gyson yn ein bywydau. Pan ddaeth yr amser, In the Welsh Wind oedd yr unig enw naturiol i’n distyllfa.

Pan gawsom ein cwestiynu am hyn, a phan ofynnwyd i ni pam nad oeddem yn defnyddio enw Cymraeg, rydyn ni’n dweud nad yw’r enw ar ei ben ei hun yn diffinio ac nid yw’r enw’n gallu diffinio pa mor ‘Gymraeg’ ydyn ni: daw ein ‘Cymreictod’ o’n hymroddiad i’r gymuned, i brynu nwyddau a gwasanaethau yng Nghymru lle bo hynny’n bosibl, gweithio gyda ffermwyr lleol, sefydlu’r bragdy cyntaf yng Nghymru ers dros 100 mlynedd er mwyn i’n barlys allu cael ei fragu yma yn hytrach na Lloegr a rhoi cyfleoedd i’n pobl ifanc allu datblygu sgiliau a, gobeithio, aros yn yr ardal yn hytrach na gorfod gadael (fel y bu rhaid i minnau wneud) i chwilio am waith rhywle arall.

Beth am y wefan? Unwaith eto, nid ydym yn defnyddio’r Gymraeg bob tro wrth gyfathrebu ar-lein ond busnes ifanc iawn ydyn ni o hyd sy’n ceisio gwneud ein lle yn y byd. Pan ddechreuon ni, nid oedd gennym yr arian na’r gallu i sefydlu’r wefan yn y ddwy iaith, ond gallwn eich calonogi chi bod hyn yn flaenoriaeth bwysig i ni. Mae’r Gymraeg yn bwysig i ni – mae bron pawb sy’n gweithio yma naill ai’n siarad Cymraeg neu’n dysgu ac rydym yn croesawu hyn. Caiff y Gymraeg ei siarad yn y ddistyllfa ac rydym yn ceisio darparu ar gyfer ymwelwyr yn y Gymraeg. Hoffwn yn fawr iawn i gael gwefan ddwyieithog ac mae defnyddio’r Gymraeg yn rhywbeth rydym yn gweithio arno ar gyfer 2021.

Felly, os ydych chi’n pendroni pam nad ydym yn defnyddio’r Gymraeg cymaint ag y byddech chi’n ei ddisgwyl, gofynnwn ni i chi fod yn amyneddgar. Rydym yn gweithio’n galed i gynhyrchu jiniau sy’n ennill gwobrau – llawer ohonynt i fusnesau eraill, i ddatblygu wisgi Cymreig o’r grawn i’r gwydr sy’n hyrwyddo grawn wedi’i dyfu’n lleol ac i dyfu busnes cynaliadwy sy’n creu swyddi a chyfleoedd yn yr ardal. Bydd gwefan ddwyieithog gyda chi’n fuan a byddwn yn defnyddio’r Gymraeg yn fwy amlwg – ond fel wisgi da – mae’n cymryd amser i wneud pethau’n iawn!

Os hoffech ddarllen y blog hwn yn Saesneg, cliciwch fan hyn!

×